Menter Cwm Gwendraeth Elli

Menter Cwm Gwendraeth Elli

Share

Hyrwyddo defnydd o’r iaith gymraeg yn ardal Llanelli a Chwm Gwendraeth.
🛍️☕️ Y Cwtsh
🧘‍♀️🌿Pafiliwn Penygroes
📞01269 871600
Rhif Elusen - 1021901

01/10/2026

Rydym yn chwilio am reolwr caffi cyfeillgar, dibynadwy a threfnus i ymuno â’n tîm yn ein caffi newydd sbon yn Llwynhendy.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan bwysig yn rhedeg y café o ddydd i ddydd, gan oruchwylio’r gweithgareddau blaen tŷ a’r gegin, a helpu i greu amgylchedd croesawgar a phroffesiynol i gwsmeriaid a staff.

Prif Gyfrifoldebau

- Sicrhau bod y caffi'n rhedeg yn esmwyth o ddydd i ddydd.
- Cefnogi a goruchwylio staff.
- Dirprwyo tasgau a sicrhau bod y tîm yn gweithio’n effeithlon.
- Sicrhau bod safon uchel o wasanaeth cwsmeriaid yn cael ei chynnal.
- Paratoi bwyd a diodydd pan fo angen.
- Sicrhau bod safonau hylendid bwyd, iechyd a diogelwch a glendid yn cael eu cynnal.
- Ymdrin â threfniadau agor a chau’r caffi.
- Monitro lefelau stoc a rhoi gwybod am unrhyw anghenion archebu.
- Ymdrin ag ymholiadau cwsmeriaid a datrys unrhyw broblemau mewn modd proffesiynol.
- Arwain drwy esiampl a chreu awyrgylch cadarnhaol a chyfeillgar o fewn y

**Mae’r gallu i siarad a deall Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.**

Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan rywun sy’n hyderus yn defnyddio’r Gymraeg gyda chwsmeriaid a chydweithwyr, ac sydd â brwdfrydedd dros greu amgylchedd Cymraeg a chroesawgar.

Byddai profiad blaenorol mewn caffi, lletygarwch neu rôl oruchwylio yn ddymunol, ond y rhinweddau pwysicaf yw dibynadwyedd, brwdfrydedd, sgiliau cyfathrebu da a pharodrwydd i gymryd cyfrifoldeb.

Ebostiwch [email protected] os oes gennych ddiddordeb

30/09/2026

Nodyn i’ch atgoffa, mae’r gystadleuaeth creu poster yn cau yfory nawr.

Nodir mai cystadleuaeth unigol yw hwn.

Photos from Ysgol Gynradd Gymraeg Cefneithin's post 25/09/2026
23/09/2026

Clwb Garddio gyda 🌳 Croeso i aelodau newydd 🪏

21/09/2026

Gwyl Dros y Bont 2026

Nos Iau, 15.10, byddem yn mwynhau cwmni Cleif Harpwood a Rhiannon O'Connor ym Mhontrarddulais.

Nos Wener, 16.10, Noson llawn dop gyda Chwaer.Music , Bwca a Gwilym Bowen Rhys yn yr Hendy.

🎟️ Mae'r tocynnau yn £12, neu prynwch docyn Nos Iau + Nos Wener i arbed a***n! Ar werth nawr ➡️ https://buff.ly/jmuyXgc

Photos from Menter Cwm Gwendraeth Elli's post 17/09/2026

Yn ddiweddar, dechreuodd Llion ar brosiect newydd yn Nhŷ Aberdafen, Llanelli. Gyda'r preswylwyr, mae ef wedi dechrau cyfieithu arwyddion sydd o gwmpas y cartref. Fe gafodd y criw amser hwylus dros ben yn peintio, dysgu geiriau Cymraeg a gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg gyda Llion.

Diolch am y croeso.

Brainkind

14/09/2026

👀👀👀👀

👀👀

11/09/2026

Datganiad am ganslo Gŵyl Gorslas a Gŵyl Cwm-Ni.
*English Below*

Yn anffodus, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i ganslo Gŵyl Gorslas a Gŵyl Cwm-Ni yfory oherwydd rhagolygon y tywydd.

Rydym yn hynod siomedig na fyddwn yn gallu cynnal y digwyddiadau fel y bwriadwyd, yn enwedig ar ôl yr holl waith caled, amser ac egni sydd wedi mynd mewn i’w trefnu.

Hoffem ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith, y stondinwyr, gwirfoddolwyr a’r noddwyr.

Rydym yn edrych ‘mla’n i gig Al Lewis heno a’r Gymanfa Ganu yng Nghapel Seion nos Sul.

Unfortunately, we have come to the difficult decision to cancel Gŵyl Gorslas and Gŵyl Cwm-Ni tomorrow because of the weather forecast.

We’re disappointed that we won’t be able to hold the events as planned, especially after all the hard work, time and energy that’s gone into organising.

We’d like to thank everyone involved in the work, the stallholders, the volunteers and the sponsors.

We’re looking forward to the Al Lewis gig tonight, and the ‘Cymanfa Ganu’ in Capel Seion on Sunday night.

Diolch yn fawr i chi am eich dealltwriaeth.

Photos from Menter Cwm Gwendraeth Elli's post 07/09/2026

Menter Cwm Gwendraeth Elli 🤝 Y Scarlets

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn cydweithio unwaith eto gyda'r Scarlets yn ystod tymor 2026/27. Ar Ddydd Sadwrn, y 10fed o Hydref yn ystod eu gem yn erbyn Benneton rydym yn mynd i fod yn trefnu adloniant cyn ac ar ôl y gem. Thema y gem unwaith eto yw "Dathlu ein Cymreictod." 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏉

Fel rhan o'r achlysur rydym yn falch o gyhoeddi dwy gystadleuaeth i blant ysgolion cynradd y Cwm a Llanelli. Gweler y manylion ar y posteri. 👇

*Pwysig nodi, byddem yn gofyn am lun o'r plant a fyddai'n fuddugol yn y cystadleuthau.*

Scarlets

07/09/2026

Mae Theatr Menter Cwm Gwendraeth Elli yn dechrau nôl ddydd Mercher yma!!

Dewch yn llu🎭

[email protected] am fwy o wybodaeth 📧

Want your business to be the top-listed Beauty Salon in Swansea?
Click here to claim your Sponsored Listing.

Telephone

Address


11-15 Coalbrook Road, Pontyberem
Swansea
SA155HU

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 4:30pm

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Menter Cwm Gwendraeth Elli posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Subscribe

We will notify you when anything happens in Swansea.